Ysgol Gynradd Nebo

ss-4

Gwybodaeth

 

 

I lawrlwytho ein llawlyfr fel pdf, cliciwch yma.

 

Oriau Ysgol

Cyfnod Sylfaen ac Adran Iau

9:00yb - 3:15yh

Meithrin

9:00yb - 11:00yb

Ni chaniateir mynediad i'r ysgol cyn 8:50yb.

Clwb Gofal Cyn Brecwast

  • £1 y sesiwn
  • Mynediad yn cychwyn 8:10yb

Clwb Brecwast

  • 8:35 yb - dim mynediad ar ol 8:40yb

Gweler y llythyr ynghlwm am fwy o wybodaeth - cliciwch yma

Clybiau Cwricwlaidd

Drwy gydol y flwyddyn cynhelir clybiau amrywiol ar gyfer disgyblion yr ysgol. Bydd y clybiau yn digwydd fel arfer ar nos Lun ac yn ystod amser cinio.

  • Campau’r Ddraig (gymnasteg, pêl-droed, pêl-rwyd, hoci, ffitrwydd, athletau gyda’r pwyslais yn newid yn dibynnu ar y tymor).
  • Clwb Dal i Fynd
  • Clwb TGch
  • Yr Urdd
  • Clwb Garddio: Haf (adeg plannu)

Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD)

Nod y Grant Amddifadedd Disgyblion (GAD) ydi i wella cyrhaeddiad dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgolion am ddim a dysgwyr sy'n derbyn gofal. Ei ddiben yw goresgyn y rhwystrau ychwanegol y mae dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yn eu hwynebu sy'n eu hatal rhag cyrraedd yr un lefel â'u cyfoedion beth bynnag fo'u gallu.