Ysgol fechan wledig yw Ysgol Nebo gyda golygfeydd godidog o’r mynyddoedd a’r arfordir. Mae’n gymuned fach gartrefol iawn gyda chysylltiadau ardderchog rhwng y gweithlu, plant, llywodraethwyr, rhieni a’r gymuned leol. Arwyddair yr ysgol yw “ Gweithio gyda’n gilydd” ac mae hyn yn wir o gymuned yr ysgol.
Mae pob plentyn yn chwarae rôl allweddol yn y cynllunio a’r trefniadau dyddiol a chânt oll gyfle i ddatblygu yn ôl eu gallu ac i’w llawn botensial.
Cred yr ysgol fod rhan y rhieni yn hanfodol ac felly mabwysiadwyd cynllun drws agored a chytundeb cartref/ysgol.
Mae’r ysgol hon yn cynnig addysg sy’n cynorthwyo ‘r plant i gyflawni eu llawn botensial mewn amgylchedd gartrefol, gynaliadwy , garedig , gyfartal.
I weld fersiwn mwy o'r calendar, cliciwch yma.
Cyfeiriad:
Ysgol Gynradd Nebo, Nebo Primary School, Nebo, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6EE
Ffôn: 01286 881273
E-bost: Bethan.Hughes@nebo.ysgoliongwynedd.cymru