Ysgol Gynradd Nebo

Dosbarth

Mae’r ysgol wedi ei rhannu yn ddau ddosbarth:

Dosbarth Cyfnod Sylfaen Ysgol NeboMae'r dosbarth cyfnod sylfaen wedi cael ei rannu yn wahanol ardaloedd. Maent yn dysgu drwy chwarae yn yr ardaloedd - bydd themau newydd yn cael eu cyflwyno yn rheolaidd.

Bydd y dosbarth cyfnod sylfaen yn cael llefrith a ffrwyth yn y dosbarth/caffi bob bore.

Bydd gwersi ymarfer corff bob dydd Mercher a Gwener.

 

Cyfnod Sylfaen

Hydref 2017: Y Fi (Ysbyty, Penblwydd, Sypreis Handa, Hydref, Nadolig)

Gwanwyn 2018: Teithio

Haf 2018: Glan y Môr

Adran Iau Ysgol NeboYn y dosbarth byddem yn cael gwaith catref pob dydd Gwener. Mae angen dychwelyd y gwaith catref yn ol ar ddydd Mercher.

Bydd angen i'r plant ymarfer eu sillafu yn ddyddiol yn yr ysgol ac adref a bydd yna brawf iddynt pob dydd Gwener ar y geiriau hynny.

Disgwylir i'r disgyblion fod yn darllen adref yn rheolaidd.

Yn ystod tymor yr Hydref bydd gwersi nofio, tymor y Gwanwyn byddem yn mynd i Plas Silyn ac yn yr Haf bydd y gwersi yn cael eu cynnal y tu allan.