Ysgol Gynradd Nebo

ss-1

Ysgol Iach

Mae Ysgol Nebo wedi ymrwymo â Chynllun ysgolion iach Gwynedd ac yn gweithio ar cam 4 o’r cynllun erbyn hyn. Mae’r cynllun yn galluogi’r ysgol i gyfrannu’n bositif tuag at iechyd a lles y disgyblion,athrawon a’r gymuned ehangach drwy ddatblygu amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd.

Mae ysgol Iach yn cyflwyno agweddau iechyd a lles drwy’r canlynol:

  • Y Cwricwlwm Cenedlaethol / gweithgareddau’r Cyfnod Sylfaen
  • Y Cwricwlwm cudd ac ethos yr ysgol
  • Datblygu ar y cysylltiadau sydd yn bodoli eisioes rhwng y cartref , y gymuned ac asiantaethau arbennigol eraill.

Bocsys Bwyd Iach

Mae cinio ysgol iach ar gael yn yr ysgol pob dydd am bris o £2.50 y dydd. Ond os nad ydych yn dymuno cael cinio ysgol gallwch wneud pecyn bwyd i'ch plentyn. Fel rhan o waith Ysgol Iach Ysgol Nebo rydym yn argymell eich bod yn darllen y canllawiau isod er mwyn creu pecyn bwyd iachus. Dyma ganllawiau i rieni ar gyfer gwneud pecynnau bwyd iach i ddod i'r ysgol.

Newid am Oes Cymru | Ffyrdd hawdd o wneud bocsys bwyd yn iachach - cliciwch yma

Dogfennau i lawrlwytho: